Logo Ysgol Llanfair Pwllgwyngyll

Ysgol Llanfair Pwllgwyngyll

Newyddion, cylchlythyrau a llythyrau · News, newsletters and letters
Hafan › Llythyrau › 2026-2027 › Medi

Balansau'r clybiau a chanslo archebion

9.9.2026

Annwyl Riant / Warchodwr,

Mae rhai ohonoch wedi holi pam fod swm o arian ar eich cyfrif MyChildAtSchool, yn gredyd neu'n ddyled, heb i chi dalu nac archebu dim eto eleni.

Dyma'r rheswm. Pan symudon ni o School Gateway i Bromcom dros yr haf, mi ddaeth y balansau efo ni. Beth bynnag oedd ar eich cyfrif School Gateway ar ddiwedd tymor yr haf sydd ar eich cyfrif rŵan. Dydi'r swm ei hun heb newid.

Os ydych chi mewn credyd

Does dim byd i'w wneud. Mi eith yr arian tuag at sesiynau eleni, ac mi welwch chi'r balans yn gostwng wrth i chi archebu.

Os oes dyled ar y cyfrif

Mae'r swm hwnnw am sesiynau mae'ch plentyn wedi eu cael yn barod. Rydyn ni'n gofyn i chi ei glirio cyn gynted ag y gallwch chi.

Os ydi hynny'n anodd ar hyn o bryd, cysylltwch efo'r swyddfa. Mi fedrwn ni drefnu i chi dalu bob yn dipyn, ac mi geith hynny aros yn gyfrinachol. Mae'n llawer gwell i ni ddod i drefniant, ond fedrwn ni ddim cadw'r clybiau i fynd os ydi cyfrifon yn aros heb eu talu.

Os ydych chi'n meddwl bod y ffigwr yn anghywir, gadewch i ni wybod. Mae'r cyfrifon terfynol o School Gateway gennym ni, ac mi awn ni drwyddo fo efo chi.

Canslo archeb

Canslwch eich archebion eich hunain ar MyChildAtSchool. Fedrwn ni ddim gwneud hynny ar eich rhan. Does gan y swyddfa mo'r staff i fynd yn ôl drwy'r cofrestrau a chanslo archebion ar ôl i sesiwn fynd heibio, felly yn anffodus os yw archeb ar eich cyfrif bydd rhaid talu amdani.

  • Y Clwb Brecwast - canslwch unrhyw bryd cyn y sesiwn, gan gynnwys ar y bore ei hun. Does dim cyfnod rhybudd. Y cwbl rydyn ni'n gofyn ydi eich bod chi'n gwneud hynny eich hunain.
  • Clwb y Gollen - canslwch o leiaf bump diwrnod ymlaen llaw. Rydym yn staffio'r clwb yn ôl y niferoedd sydd gynnon ni bump diwrnod cyn y sesiwn, felly ar ôl hynny mae'r sesiwn yn aros ar eich cyfrif p'un ai ydi'ch plentyn yn dod ai peidio.
  • Os ydi'ch plentyn yn sâl - does dim rhaid i chi wneud dim. Does dim angen i chi adael i'r clwb wybod am salwch, mi fyddwn ni'n gweld o'r gofrestr. Mi gewch gredyd am y sesiwn.

Diolch yn fawr,

Gwyn Pleming