Prosbectws 2026 - 2027
Popeth sydd angen i chi ei wybod am Ysgol Llanfair Pwllgwyngyll












Pam mae teuluoedd yn ein dewis ni
🏴 Cymraeg a dwyieithog
Ein nod ydi bod pob plentyn yn ein gadael ni'n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, pa bynnag iaith mae'n ei siarad adref.
📚 Darllenwyr ac arweinwyr
Diwylliant darllen cryf, a chyfrifoldeb go iawn i'r disgyblion - o'r Cyngor Ysgol i brosiectau mentergarwch.
🍽️ Cinio ysgol am ddim
Cinio poeth am ddim bob dydd i bob disgybl o'r Derbyn i Flwyddyn 6.
⏰ 8:00 tan 5:15
Clwb gofal o 8:00, brecwast am ddim o 8:25, a Chlwb y Gollen ar ôl ysgol tan 5:15.
🏕️ Anturiaethau oddi cartref
Teithiau preswyl i Lan-llyn ym Mlwyddyn 4, Llangrannog ym Mlwyddyn 5 a Chaerdydd ym Mlwyddyn 6.
⚽ Chwaraeon a cherddoriaeth
Nofio o Flwyddyn 2, gemau yn erbyn ysgolion eraill o Flwyddyn 3, a gwersi piano, ffidil, telyn, pres, chwythbrennau a drymiau.
Beth ddywedodd Estyn
Arolygodd Estyn yr ysgol ym mis Ionawr 2026.
...cymuned ddysgu ofalgar, amlieithog a chynhwysol lle mae disgyblion, staff a rhieni yn ymfalchïo yn ei naws deuluol a chynhaliol.
...pwyslais cryf ar ddatblygu'r Gymraeg a hyrwyddo Cymreictod trwy brofiadau cyfoes a chyffrous.
...perthnasoedd weithio gadarn a pharchus rhwng oedolion a disgyblion yn gryfder nodedig.
...diwylliant darllen cryf a'r cyfleoedd arbennig i ddisgyblion ymgymryd â chyfrifoldebau arwain.
...addysgu effeithiol a holi medrus gan staff yn arfogi disgyblion i adeiladu ar eu dysgu blaenorol.
...berthynas rhwng yr ysgol, rhieni a'r gymuned ehangach yn gryfder nodedig.
...pennaeth yn darparu arweinyddiaeth angerddol ac ysbrydoledig, a chaiff ei gefnogi'n fedrus gan dîm arwain cydwybodol.
Darllenwch adroddiad Estyn i rieni
Yr adroddiad arolygu llawn (PDF)
Dewch i'n gweld ni
Ffoniwch 01248 714478 i drefnu ymweliad. Mi wnawn ni'ch tywys chi o gwmpas, ac mi gewch chi weld y plant wrth eu gwaith.
O ddydd i ddydd yn yr ysgol
Dewch o hyd i'r wybodaeth
Croeso
Ysgol hapus a diogel yng nghanol y pentref
Am yr ysgol
Ffeithiau'r ysgol, y Gymraeg, presenoldeb a'r rheolau rydyn ni'n eu dilyn
Y diwrnod ysgol
Cyrraedd, cofrestru, amser chwarae ac amser mynd adref
Dyddiadau'r tymor
Gwyliau, diwrnodau hyfforddiant a nosweithiau cau'r clwb ar gyfer 2026 - 2027 a 2027 - 2028
Gwisg ysgol a dillad Addysg Gorfforol
Siwmper goch, crys-T gwyn, trowsus neu sgert ddu
Presenoldeb ac absenoldeb
Beth i'w wneud pan fydd eich plentyn yn sâl neu i ffwrdd
Clwb Brecwast a Chlwb y Gollen
Gofal o 8:00 y bore tan 5:15 ar ôl ysgol
Cinio a bwyta'n iach
Cinio ysgol am ddim, y fwydlen, byrbrydau a photeli dŵr
Dysgu a'r cwricwlwm
Cwricwlwm i Gymru, dosbarthiadau, gwaith cartref a gwersi cerdd
Chwaraeon, tripiau a theithiau preswyl
Addysg Gorfforol, nofio, clybiau, teithiau preswyl a'u cost
Anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiant
Cefnogaeth i bob plentyn, a chyfle cyfartal i bawb
Ein gwerthoedd a'r Rheolau Aur
Y 5 C, ein nodau a'r cytundeb cartref-ysgol
Iechyd, meddyginiaeth a diogelwch
Meddyginiaeth, damweiniau, cymorth cyntaf a chadw'r safle'n ddiogel
Cadw plant yn ddiogel
Diogelu ac amddiffyn plant
Ymuno â'r ysgol
Llefydd Meithrin a Derbyn, newid ysgol a symud ymlaen
Staff a llywodraethwyr
Pwy ydi pwy yn Ysgol Llanfair Pwllgwyngyll
Cysylltu, apiau a chwynion
Pwy i gysylltu â nhw, pa ap i'w ddefnyddio, a sut i godi pryder
Prosbectws ar gyfer blwyddyn ysgol 2026 - 2027. Roedd yr wybodaeth yn gywir pan gafodd ei chyhoeddi ar 25 Medi 2026, ond gall newid. Mae copïau papur ar gael am ddim o swyddfa'r ysgol, yn Gymraeg neu'n Saesneg.