Logo
Prosbectws
✅

Presenoldeb ac absenoldeb

Beth i'w wneud pan fydd eich plentyn yn sâl neu i ffwrdd

✔ Gwiriwyd: 26.9.2026

Mae pob diwrnod yn cyfrif

Mae presenoldeb rheolaidd a phrydlon yn bwysig. Mae'r swyddfa'n gwirio presenoldeb a phrydlondeb bob wythnos. Mae Swyddog Lles Addysg yr awdurdod lleol hefyd yn gwirio ein presenoldeb ac yn cefnogi teuluoedd sydd angen help.

Os ydi'ch plentyn yn sâl

Cadwch eich plentyn adref os ydi o neu hi'n sâl yn y bore. Bydd yn gwella'n gynt, ac mi fydd y plant eraill yn cadw'n iach.

Rhowch wybod i ni cyn 9:05 ar y diwrnod. Ffoniwch y swyddfa ar 01248 714478, neu rhowch wybod am yr absenoldeb drwy MyChildAtSchool.

Os nad ydi'ch plentyn wedi cyrraedd erbyn 9:05 a dydyn ni ddim wedi clywed gynnoch chi, mi fyddwn ni'n cysylltu â chi i ofyn pam.

Chwydu a dolur rhydd: 48 awr

Cadwch eich plentyn adref am 48 awr ar ôl y pwl olaf. Y pwl olaf sy'n cyfrif, nid y cyntaf. Canllaw Iechyd Cyhoeddus Cymru ydi hwn, ac mae'n atal byg rhag lledaenu drwy ddosbarth.

Amser i ffwrdd yn ystod y tymor

Gofynnwch drwy MyChildAtSchool, o leiaf bythefnos cyn y diwrnod cyntaf i ffwrdd ar gyfer gwyliau, gan egluro'r rheswm yn fyr. Mae ein canllaw cam wrth gam yn dangos sut: Gofyn am amser i ffwrdd o'r ysgol yn ystod y tymor.

Apwyntiadau meddygol

Rhowch wybod am y rhain drwy MyChildAtSchool hefyd, yn yr un ffordd.

← Yn ôl i'r prosbectws