Logo
Prosbectws
👕

Gwisg ysgol a dillad Addysg Gorfforol

Siwmper goch, crys-T gwyn, trowsus neu sgert ddu

✔ Gwiriwyd: 26.9.2026

Gwisg ysgol

🟥 Siwmper goch

⚪ Crys-T gwyn

⬛ Trowsus du neu sgert ddu

👗 Ffrog haf goch

👞 Esgidiau duon

Does dim rhaid prynu dillad efo logo'r ysgol. Mae dillad plaen yn y lliwiau cywir yn iawn.

♻️ Gwisg ail-law

Rydyn ni'n cynnal digwyddiadau lle gall teuluoedd roi a chasglu gwisg ysgol sydd wedi mynd yn rhy fach. Does dim amserlen benodol - rydyn ni'n cynnal un pan fydd y stoc yn cynyddu, fel arfer ar ddiwedd y flwyddyn ysgol.

💷 Help efo'r gost

Efallai y gall teuluoedd ar incwm is hawlio Grant Hanfodion Ysgol Llywodraeth Cymru at wisg ysgol, dillad Addysg Gorfforol ac esgidiau ysgol.

Dillad Addysg Gorfforol

Mae unrhyw ddillad chwaraeon addas yn iawn ar gyfer gwersi Addysg Gorfforol. Mae angen esgidiau addas ar eich plentyn hefyd, a bydd yr athro neu'r athrawes yn dweud wrthych chi beth sydd ei angen.

← Yn ôl i'r prosbectws