Logo Ysgol Llanfair Pwllgwyngyll

Ysgol Llanfair Pwllgwyngyll

Newyddion, cylchlythyrau a llythyrau · News, newsletters and letters

Gofyn am amser i ffwrdd o'r ysgol yn ystod y tymor

9.9.2026

Mae pob cais am amser i ffwrdd o'r ysgol yn dod drwy MyChildAtSchool - gwyliau, apwyntiad meddygol, deintydd, ymweliad teuluol. Mae'r hen ddolen wedi mynd. Nid oes ffurflen bapur, ac nid oes ffurflen ar y wefan. Byddem yn ddiolchgar petaech chi'n gadael i ni wybod cyn gynted â phosibl, ac yn achos gwyliau o leiaf bythefnos cyn y diwrnod cyntaf i ffwrdd, ac yn egluro'n fyr pam mae'r gwyliau yn syrthio yn ystod y tymor. Mae hynny'n rhan bwysig o'r broses gymeradwyo. Diolch yn fawr.

Mewngofnodwch

Agorwch ap MyChildAtSchool a mewngofnodi.

Ewch at bresenoldeb

Tapiwch My Child, wedyn Attendance, wedyn Report an absence.

Dewiswch eich plentyn

Mynd fel teulu? Dewiswch bob plentyn sydd yn yr ysgol yma ar yr un tro.

Gosodwch y dyddiadau

Rhowch y diwrnod cyntaf i ffwrdd yn Date From a'r diwrnod olaf i ffwrdd yn Date To. Y diwrnod olaf i ffwrdd ydi'r diwrnod cyn i'ch plentyn ddod yn ôl i'r ysgol.

Gadewch y blwch Time heb ei dicio

Ar gyfer plentyn sy'n cyrraedd yn hwyr neu'n gadael yn gynnar ar un diwrnod mae'r blwch hwnnw.

Ysgrifennwch eich neges

Yn Message, rhowch beth ydi'r absenoldeb: Holiday, Medical Appointment, Dentist. Os gwyliau ydi o, ychwanegwch eich rheswm.

Atodwch rywbeth os oes angen

Mae dewis i atodi ffeil os ydych chi'n teimlo bod angen. Cadarnhad archebu, gwahoddiad priodas, llythyr apwyntiad.

Anfonwch

Tapiwch Send, wedyn cadarnhau.

Ar borwr

Mewngofnodwch i MyChildAtSchool, agorwch Dashboard, wedyn Attendance, wedyn Report an Absence. Yr un blychau sydd yno.

Beth sy'n digwydd wedyn

Mae'r swyddfa'n darllen eich cais ac yn ei basio ymlaen ata i. Daw fy ateb atoch chi fel neges yn eich blwch derbyn ar MyChildAtSchool.

Os oes rhywbeth o'i le

  • Methu mewngofnodi. Ffoniwch y swyddfa. Fe gawn ni'ch cyfrif i weithio, ac wedyn anfonwch y cais drwy'r ap.
  • Yr ap yn dweud bod hysbysiad yn bodoli'n barod ar gyfer y dyddiadau hynny. Rydach chi wedi anfon un. Edrychwch yn eich blwch derbyn am ein hateb.
  • Dim botwm Report an absence i'w weld. Ffoniwch y swyddfa, a disgrifiwch beth sydd ar eich sgrin.