Cyrraedd yr ysgol
Mae'r giatiau'n agor am 8:45. Mae'r gofrestr yn cau am 9:00, ac rydyn ni'n cloi giatiau'r disgyblion am 9:00. Ar ôl hynny, dewch â'ch plentyn at y brif fynedfa a llofnodi yn y swyddfa.
Os ydi'ch plentyn yn mynd i'r Clwb Brecwast, gall gyrraedd o 8:00. Gweler Clwb Brecwast a Chlwb y Gollen.
Dysgu Sylfaen (Meithrin i Flwyddyn 2)
| Amser | |
|---|---|
| 8:45 - 9:00 | Cyrraedd yr ysgol |
| 9:00 - 9:10 | Cofrestru |
| 9:10 - 10:15 | Gweithgareddau, tasgau ffocws ac ardaloedd dysgu |
| 10:15 - 10:30 | Amser chwarae |
| 10:30 - 12:00 | Gweithgareddau, tasgau ffocws ac ardaloedd dysgu |
| 12:00 - 1:00 | Cinio |
| 1:00 - 2:30 | Gweithgareddau, tasgau ffocws ac ardaloedd dysgu |
| 2:30 - 2:40 | Amser chwarae |
| 2:40 - 3:05 | Ffrwyth a llefrith / stori |
| 3:10 | Amser mynd adref |
Adran Iau (Blwyddyn 3 i 6)
| Amser | Blwyddyn 3 a 4 | Blwyddyn 5 a 6 |
|---|---|---|
| 8:45 - 9:00 | Cyrraedd yr ysgol | Cyrraedd yr ysgol |
| 9:00 - 9:10 | Cofrestru | Cofrestru |
| Bore 1 | 9:10 - 10:30 | 9:10 - 10:45 |
| Amser chwarae | 10:30 - 10:45 | 10:45 - 11:00 |
| Bore 2 | 10:45 - 12:00 | 11:00 - 12:00 |
| 12:00 - 1:00 | Cinio | Cinio |
| 1:00 - 3:15 | Amser dosbarth | Amser dosbarth |
| 3:15 | Amser mynd adref | Amser mynd adref |
Gwasanaethau
Mae'r diwrnod yn dechrau efo gwasanaeth neu funud dawel o fyfyrio.
| Diwrnod | |
|---|---|
| Dydd Llun | Gwasanaeth ysgol gyfan |
| Dydd Mawrth | Canu'r Adran Iau |
| Dydd Mercher | Gwasanaeth dosbarth |
| Dydd Iau | Canu Dysgu Sylfaen |
| Dydd Gwener | Gwasanaeth ysgol gyfan |
Cyrraedd yn ddiogel
Defnyddiwch y groesfan pelican y tu allan i'r ysgol, bob tro. Dydi gyrrwr ddim yn gallu gweld plentyn bach yn camu allan rhwng ceir sydd wedi parcio.
Cadwch gilfan y bws yn glir. Mae'r bysiau'n ei defnyddio o 8:00 y bore a thrwy'r dydd. Byddem yn ddiolchgar petaech chi'n peidio â pharcio na stopio yno, hyd yn oed i ollwng plentyn yn sydyn.
Rydyn ni'n dilyn cynllun cerdded i'r ysgol WOW. Os ydi'r ffordd yn llawn, parciwch ar stryd gyfagos a cherddwch y pum munud olaf.