Rheolau Aur Ysgol Llanfairpwll: Y 5 C
Cyfeillgarwch
I sicrhau ymddygiad, goddefgarwch a moesau da. Gwerthfawrogi a pharchu ein hunain ac eraill, gwrando'n astud a chydweithio ag eraill, ac ystyried teimladau eraill. Erthygl 19: yr hawl i dderbyn gofal a chael ein cadw'n ddiogel.
Cyfrifoldeb
I wneud ein gorau glas ac i fod yn aelod synhwyrol a dibynadwy o'r ysgol. Derbyn cyfrifoldeb am ein hymddygiad ein hunain, ceisio gwneud ein gorau glas bob tro, ac achub ar bob cyfle i ymestyn ein hunain. Erthygl 29: yr hawl i fod y gorau y gallwn fod.
Caredigrwydd
I gadw ein hunain yn ddiogel a gofalu am ein gilydd. Defnyddio dwylo caredig, cydweithio efo'n gilydd, a dangos parch at bobl, eiddo a'r amgylchedd. Erthygl 3: yr hawl i oedolion wneud yr hyn sydd orau i bob plentyn.
Cwrteisi
I ddangos cwrteisi tra'n parchu eraill bob amser. Gwerthfawrogi cyfraniad pob unigolyn, bod yn barod ac yn brydlon, a thrin eraill yn yr un ffordd ag yr hoffem ni gael ein trin. Erthygl 37: yr hawl i gael ein trin â thegwch.
Cymreictod
I siarad Cymraeg bob amser.
Ein nodau
- ysgol hapus a diogel
- dysgu y bydd y plant yn ei gofio a'i fwynhau
- pob plentyn yn ddwyieithog erbyn iddo ein gadael
- cyfle i bob plentyn ddatblygu'n gymdeithasol, yn emosiynol ac yn ei ddysgu
- yr amrywiaeth ehangaf posib o brofiadau
- dinasyddion sy'n barod i ysgwyddo cyfrifoldeb
- plant sy'n gallu gwahaniaethu rhwng y da a'r drwg
- caredigrwydd a chwrteisi
- perthynas gref rhwng yr ysgol, y rhieni a'r pentref
Y cytundeb cartref-ysgol
Y disgybl
Mi fyddaf i'n gwrtais ac yn meddwl am eraill, yn mwynhau'r ysgol ac yn helpu eraill i'w mwynhau, yn ffrind da, yn trio fy ngorau glas ym mhob gwers ac yn dilyn rheolau'r ysgol.
Y rhiant neu'r gofalwr
Mi fyddaf i'n sicrhau bod fy mhlentyn yn dod i'r ysgol bob dydd ac yn rhoi gwybod i'r ysgol am unrhyw absenoldeb yn syth, yn anfon fy mhlentyn yn y wisg gywir, ac yn cefnogi polisïau'r ysgol ar ymddygiad a chyfle cyfartal.
Yr ysgol
Mi fyddwn ni'n annog pob disgybl i wneud ei orau glas, yn meithrin hyder a theimlad o berthyn ym mhob plentyn, yn dysgu cwricwlwm cytbwys sy'n ateb anghenion pob plentyn, ac yn eich croesawu i fywyd yr ysgol, efo athrawon ar gael i drafod unrhyw bryder.