Cysylltwch â ni
📞 Ffôn
Ffoniwch am unrhyw beth brys neu unrhyw beth sydd angen ateb heddiw: salwch, absenoldeb, newid yn y person sy'n casglu'ch plentyn, neu bryder diogelu.
✉️ E-bostio'r ysgol
🗂️ E-bostio'r swyddfa
📍 Cyfeiriad
Ysgol Gynradd Llanfairpwll, Ffordd Caergybi, Llanfairpwll, Ynys Môn, LL61 5TX
Pa ap ar gyfer beth
Seesaw
Unrhyw beth am ddosbarth eich plentyn. Mae'n mynd yn syth at yr athro neu'r athrawes, a dyma'r ffordd gyflymaf o gael ateb. Lawrlwythwch o: App Store · Google Play
MyChildAtSchool
Llythyrau a negeseuon gan yr ysgol, rhoi gwybod am absenoldeb, gofyn am amser i ffwrdd, bwcio a thalu am y Clwb Brecwast a Chlwb y Gollen, a gwirio eich manylion cyswllt. Lawrlwythwch o: App Store · Google Play. Newydd iddo? Dilynwch ein canllaw sefydlu.
Ein gwefan newyddion
Pob llythyr a chylchlythyr, mewn deg iaith: newyddion.ysgolllanfairpwll.org
Dewch o hyd i ni ar Facebook (@YsgolLlanfairpwll) ac X (@YsgolLlanfair).
Codi pryder neu gŵyn
Mae'r rhan fwyaf o bryderon yn cael eu datrys yn sydyn drwy eu trafod. Siaradwch efo athro neu athrawes ddosbarth eich plentyn yn gyntaf. Os nad ydi hynny'n setlo'r mater, ffoniwch y swyddfa i drefnu cyfarfod efo'r Pennaeth.
Mae'r llywodraethwyr yn disgwyl i'r cam anffurfiol hwn ddod yn gyntaf. Os nad ydi'r mater wedi'i ddatrys wedyn, mae gan yr ysgol weithdrefn gwyno ffurfiol, wedi'i gosod gan Gyngor Ynys Môn. Gofynnwch i'r swyddfa am gopi am ddim yn Gymraeg neu'n Saesneg. Gall yr awdurdod lleol ei ddarparu mewn iaith arall os oes ei angen arnoch chi.