Croeso
Diolch am ystyried Ysgol Llanfair Pwllgwyngyll i'ch plentyn. Rydyn ni'n cynnig amrywiaeth eang o brofiadau mewn ysgol hapus a diogel, ac yn eu hymestyn y tu hwnt i'r diwrnod ysgol - o Eisteddfod yr Urdd i chwaraeon a chelf.
Mae'n disgyblion ni'n gweithio'n galed, a'n staff hefyd. Mae ymwelwyr yn sylwi ar y cyfeillgarwch, y cydweithio a'r agosatrwydd drwy'r ysgol. Rydyn ni eisiau i flynyddoedd eich plentyn yma fod ymysg dyddiau hapusaf ei fywyd.
Darllenwch ymlaen, neu ffoniwch y swyddfa ar 01248 714478 i drefnu ymweliad. Dewch i weld yr ysgol drosoch eich hun.
Am yr ysgol
Ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ydi Ysgol Llanfair Pwllgwyngyll, efo 344 o ddisgyblion. Mae'n dalgylch yn cynnwys pentref Llanfair Pwllgwyngyll, Penmynydd a Star, ac mae rhai teuluoedd yn teithio o'r tu allan i'r dalgylch. Rydyn ni'n gwasanaethu cymuned eang, efo sawl iaith a chefndir, ac mae pob plentyn yn rhan o deulu'r ysgol.
Ein nod ydi datblygu dysgwyr creadigol ac uchelgeisiol sy'n gwerthfawrogi cymuned, teulu a pharch at eraill. Mae gan rieni ran go iawn yn hynny, ac rydyn ni'n cynnig cyfleoedd cyson i chi ymuno â bywyd yr ysgol. Siaradwch efo rhieni wrth y giât - mi gewch chi wybod sut le ydi'r ysgol.
Beth mae'r disgyblion yn ei ddweud
Ein harwyddair
Hwyl mewn gwaith ar daith ein dysg
Gwyn Pleming



