Annwyl Rieni,
Bydd noson rieni gyntaf y flwyddyn ddydd Llun 5 a dydd Mawrth 6 Hydref. Cyfarfod fideo byr fydd hwn efo athro dosbarth eich plentyn, i chi glywed sut mae eich plentyn yn setlo. Yn y cyfarfod nesaf, cewch ddod i'r ysgol i weld gwaith eich plentyn.
Sut mae'n gweithio
- Mae pob apwyntiad yn para 5 munud ac yn cychwyn yn brydlon. Mae'r system yn cau'r alwad ar ddiwedd y 5 munud, felly byddem yn ddiolchgar petaech chi'n ymuno mewn da bryd.
- Un apwyntiad sydd i bob plentyn. Gallwch wahodd ail riant i ymuno â'r un alwad, o'r gwaith er enghraifft. Fel arfer, mae rhieni sydd wedi gwahanu yn ymuno â'r un apwyntiad hefyd, oni bai bod trefniant arall efo'r ysgol yn barod.
- Os oes gynnoch chi fwy nag un plentyn yn yr ysgol, gallwch archebu efo pob athro yn yr un sesiwn.
- Os oes angen mwy o amser arnoch chi, bydd yr athro'n hapus i drefnu cyfarfod arall.
Archebu
Mae'r archebu ar agor o 6yh ddydd Mercher 23 Medi tan hanner dydd ddydd Mercher 30 Medi. Ni allwn newid nac ychwanegu apwyntiadau ar ôl hynny.
Ewch i ysgolllanfairpwll.schoolcloud.co.uk i archebu. Mae'r camau i gyd, efo lluniau, yn ein canllaw: Archebu noson rieni ac ymuno â'r alwad fideo.
Gwiriwch eich manylion rŵan. Gallwch fewngofnodi cyn i'r archebu agor, i wneud yn siŵr fod y system yn eich adnabod. Rhaid i'ch teitl, eich enw a'ch e-bost gyfateb i gofnodion yr ysgol. Os nad ydi Miss neu Mrs yn gweithio, rhowch gynnig ar Ms. Os nad ydi'ch e-bost presennol yn gweithio, rhowch gynnig ar yr e-bost a roesoch i'r ysgol pan ymunodd eich plentyn. Os ydi'r ddau yn methu, cysylltwch â'r swyddfa.
Ar y noson, agorwch y ddolen ar waelod eich e-bost cadarnhau a phwyswch y botwm gwyrdd Join Video Appointments.
Edrychwn ymlaen at eich gweld.
Yn gywir,
Gwyn Pleming