Logo Ysgol Llanfair Pwllgwyngyll

Ysgol Llanfair Pwllgwyngyll

Newyddion, cylchlythyrau a llythyrau · News, newsletters and letters

Archebu noson rieni ac ymuno â'r alwad fideo

21.9.2026

Mae'r ysgol yn defnyddio SchoolCloud ar gyfer nosweithiau rhieni. Mae pob llythyr noson rieni yn rhoi'r dyddiadau a phryd mae'r archebu'n agor. Mae'r lluniau o'r camau archebu yn Saesneg, a gall y sgriniau ymddangos yn Saesneg i chithau hefyd.

Archebu

Mewngofnodwch

Ewch i ysgolllanfairpwll.schoolcloud.co.uk. Rhowch eich teitl, eich enw a'ch e-bost, yna enw a dyddiad geni eich plentyn, a phwyswch Mewngofnodi. Os ydi'r dudalen yn agor yn Saesneg, pwyswch Cymraeg ar y gwaelod.

Llun

Cael trafferth mewngofnodi? Rhaid i'ch manylion gyfateb i gofnodion yr ysgol.

  • Teitl: dyma achos y rhan fwyaf o broblemau. Os nad ydi Miss neu Mrs yn gweithio, rhowch gynnig ar Ms.
  • E-bost: os nad ydi'ch cyfeiriad presennol yn gweithio, rhowch gynnig ar yr e-bost a roesoch i'r ysgol pan ymunodd eich plentyn.
  • Os ydi'r ddau yn methu, cysylltwch â swyddfa'r ysgol.

Dewiswch y dyddiad

Cliciwch ar ddyddiad y noson rieni.

Llun

Dewiswch sut i archebu

Dewiswch Automatic ac mae'r system yn dewis yr amser gorau i chi. Dyma'r ffordd hawsaf ar ffôn. Dewiswch Manual i ddewis yr amser eich hun. Yna pwyswch Next.

Llun

Dewiswch yr athro a derbyn yr amser

Dewiswch athro dosbarth eich plentyn. Os oes gynnoch chi fwy nag un plentyn yn yr ysgol, dewiswch athro pob plentyn. Pan fydd yr amseroedd yn ymddangos, pwyswch Accept Appointments o fewn dau funud. Byddwch yn cael e-bost i gadarnhau.

Llun

Gwiriwch eich archeb

Mae'ch apwyntiadau o dan My Bookings. Oddi yma, pwyswch Invite Parent/Guardian i wahodd ail riant i'r un alwad, neu Amend Bookings i newid yr amser tra bo'r archebu ar agor.

Llun

Ar y noson

Agorwch eich e-bost cadarnhau

Cliciwch y ddolen mewngofnodi ar waelod yr e-bost, yna pwyswch y botwm gwyrdd Join Video Appointments. Mae'r ddolen click here ar yr un sgrin yn gadael i chi brofi'r camera a'r meicroffon cyn y noson. Ffôn sydd orau, ac mae clustffonau'n lleihau adlais.

Llun

Caniatewch y camera a'r meicroffon

Pan fydd y porwr yn gofyn, caniatewch y camera a'r meicroffon. Siaradwch i wneud yn siŵr fod y bar meicroffon yn symud, yna pwyswch Proceed to Video Call.

Llun

Dechreuwch yr apwyntiad

Pwyswch Start Appointment. Mae'r amserydd yn cychwyn ar yr amser a archebwyd, nid pan fyddwch chi'n ymuno, ac mae'r alwad yn gorffen ar yr amser penodol. Byddem yn ddiolchgar petaech chi'n ymuno ychydig funudau'n gynnar.