Logo Ysgol Llanfair Pwllgwyngyll

Ysgol Llanfair Pwllgwyngyll

Newyddion, cylchlythyrau a llythyrau · News, newsletters and letters
Hafan › Llythyrau › 2026-2027 › Medi

Clwb y Gollen: pum noson heb glwb eleni

21.9.2026

Annwyl Riant / Warchodwr,

Mae Cyngor Ynys Môn yn gofyn i bob ysgol gynnal chwe sesiwn hyfforddi ar ôl ysgol i'r staff eleni. Mae'n rhaid i bob aelod o staff fod yno. Mae pob ysgol yn dewis ei nosweithiau ei hun, ond mae Clwb y Gollen yn rhedeg bob noson, felly pa bynnag noson y byddwn ni'n ei dewis, bydd rhaid cau'r clwb. Bydd Clwb y Gollen ar gau ar y pum noson yma:

  • Dydd Mawrth 17 Tachwedd 2026
  • Dydd Iau 28 Ionawr 2027
  • Dydd Mawrth 2 Mawrth 2027
  • Dydd Iau 27 Mai 2027
  • Dydd Iau 17 Mehefin 2027

Mae'r chweched sesiwn yn rhy fuan i ni roi rhybudd teg i chi, felly rydyn ni wedi gwneud trefniant arbennig ar gyfer y noson honno. Mi fydd y clwb yn rhedeg fel arfer.

Rydyn ni wedi tynnu'r pum dyddiad oddi ar MyChildAtSchool. Ni welwch chi nhw yn yr ap ac ni fedrwch chi eu harchebu. Rydyn ni'n rhoi'r dyddiadau i chi rŵan er mwyn i chi gael amser i drefnu gofal arall.

Os oeddech chi wedi archebu 17 Tachwedd

Roedd rhai teuluoedd wedi archebu lle ar gyfer nos Fawrth 17 Tachwedd yn barod. Mae'r ysgol wedi canslo'r archebion hynny ac wedi rhoi'r £7 yn ôl ar eich balans Clwb y Gollen, i'w ddefnyddio ar sesiwn arall. Nid oes angen i chi wneud dim.

Mae'n wir ddrwg gennym am hyn. Gobeithio bod bron i wyth wythnos o rybudd yn rhoi digon o amser i chi wneud trefniadau eraill.

Anaml iawn y byddwn ni'n canslo'r clwb. Mae amgylchiadau eleni yn eithriadol.

Diolch am eich dealltwriaeth,

Gwyn Pleming