Annwyl Riant / Warchodwr,
O ddydd Mercher 7 Hydref ymlaen, byddaf i ffwrdd o'r ysgol am lawdriniaeth sydd wedi'i threfnu. Rydw i'n disgwyl dod yn ôl yn gynnar yn y flwyddyn newydd, ond bydd yr union ddyddiad yn dibynnu ar sut y byddaf yn gwella.
Mr Gafyn Lloyd Jones fydd y Pennaeth Dros Dro tra byddaf i ffwrdd, a bydd Miss Lara Cain yn cymryd ei waith dysgu. Mae llawer ohonoch chi'n adnabod Miss Cain yn barod. Mae hi'n athrawes uchel ei pharch sydd wedi gweithio efo ni sawl gwaith. Os oes gynnoch chi gwestiwn, mae croeso i chi gysylltu â Mr Gafyn Lloyd Jones drwy swyddfa'r ysgol fel arfer.
Mae Mrs Meryl Goulding wedi dechrau yn ei swydd fel ysgrifenyddes yr ysgol. Mae hi'n ychwanegiad gwych i'r ysgol yn barod, a gallwch fod yn dawel eich meddwl bod rhywun yn y swyddfa pan fyddwch chi ein hangen ni. Diolch yn fawr i chi am eich amynedd yn ystod y mis cyntaf.
Mae'n ddrwg gen i golli'r sioe Nadolig eleni. Rydw i wedi gofyn i'r ysgol anfon fideo o'r sioe ata i, ac rydw i wedi cadw fy sedd ar y soffa yn barod.
Ar gyfer eich dyddiadur: rydyn ni wedi ychwanegu diwrnod HMS (hyfforddiant staff) ychwanegol ddydd Llun 4 Ionawr 2027. Mae hwn yn cymryd lle'r dyddiad dechrau tymor ar galendrau cynharach. Bydd y plant yn dod yn ôl i'r ysgol ddydd Mawrth 5 Ionawr. Fel nodyn i'ch atgoffa, dyma weddill diwrnodau HMS eleni: dydd Llun 2 Tachwedd 2026, dydd Llun 4 Ionawr 2027, dydd Gwener 11 Mehefin 2027, a dydd Llun 19 a dydd Mawrth 20 Gorffennaf 2027.
Pob dymuniad da i chi i gyd am weddill y tymor. Mi wela i chi cyn gynted ag y bydda i ar fy nhraed eto.
Yn gywir,
Gwyn Pleming