
Ein targed
Ein targed ar gyfer yr ysgol gyfan ydi 95%. Yn 2025 - 2026, 94.8% oedd ein presenoldeb. Rydym bron yno.
Mae llawer o deuluoedd yn cyrraedd 95% neu'n uwch. Diolch i bob plentyn sydd heb golli diwrnod o gwbl.
Beth rydym yn ei wneud
- Mae'r swyddfa'n gwirio presenoldeb a phrydlondeb bob wythnos.
- Rydym yn cysylltu â chi os ydi'ch plentyn i ffwrdd ac nad ydym wedi clywed gynnoch chi.
- Bob hanner tymor, rydym yn anfon adroddiad atoch chi efo presenoldeb eich plentyn, a lle mae hynny ar ein system goleuadau traffig (gweler isod).
- Os ydi presenoldeb yn llithro, rydym yn siarad efo chi ac yn cytuno sut i helpu.
- Rydym yn gwrando ar y plant ac yn gofyn iddyn nhw beth sy'n eu helpu i ddod i'r ysgol.
- Rydym yn sôn am bresenoldeb yn y cylchlythyr.
Ein system goleuadau traffig
| Presenoldeb | Beth mae'n ei olygu |
|---|---|
| 🟢 95% neu uwch | Ar darged yr ysgol neu'n uwch |
| 🟠 90% i 94.9% | Ychydig is na'r targed |
| 🔴 o dan 90% | Llawer is na'r targed. Mae Llywodraeth Cymru yn cyfrif hyn fel absenoldeb parhaus. |
Swyddog Lles Addysg
Mae Swyddog Lles Addysg Cyngor Ynys Môn hefyd yn gwirio ein presenoldeb, ac yn cefnogi teuluoedd sydd angen help.
Angen help?
Os oes rhywbeth yn ei gwneud hi'n anodd i'ch plentyn ddod i'r ysgol, siaradwch efo ni. Ffoniwch 01248 714478 neu e-bostiwch 6602152_gweinyddol.llanfairpwll@hwbcymru.net. Rydym eisiau helpu.