
Mae plentyn sy'n cyrraedd ar amser yn dechrau'r diwrnod efo'i ddosbarth. Mae plentyn sy'n cyrraedd yn hwyr yn colli dechrau'r wers, yn tarfu ar y dosbarth, ac yn cymryd mwy o amser i setlo.
Mae munudau'n adio
| Hwyr bob dydd | Dros flwyddyn | Yr un fath â |
|---|---|---|
| 5 munud | bron i 16 awr | dros ddeuddydd a hanner o ysgol |
| 10 munud | bron i 32 awr | wythnos ysgol gyfan |
| 15 munud | 47½ awr | wythnos a hanner |
| 30 munud | 95 awr | tair wythnos |
Rydym yn cyfrif 190 diwrnod ysgol, a diwrnod ysgol o 9:00 tan 3:10.
Os ydych chi'n gwybod y byddwch yn hwyr
Rhowch wybod i ni drwy MyChildAtSchool. Ticiwch y blwch Time ar yr un ffurflen â'r absenoldeb. Ar gyfer cyrraedd yn hwyr neu adael yn gynnar mae'r blwch hwnnw.