Logo Ysgol Llanfair Pwllgwyngyll

Ysgol Llanfair Pwllgwyngyll

Newyddion, cylchlythyrau a llythyrau · News, newsletters and letters

Prosiect Pengwin: astudiaeth i deuluoedd efo plentyn dan dair oed

PrydAr agor rŵan - cofrestrwch eich diddordeb
LleYn eich cartref eich hun

Nid yr ysgol sy'n trefnu hyn. Prosiect Pengwin, ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, sy'n cynnal yr astudiaeth, ar y cyd â Llywodraeth Cymru.

Oes gynnoch chi blentyn dan dair oed? Mae Prosiect Pengwin yn chwilio am deuluoedd yng Nghymru i gymryd rhan mewn astudiaeth, ac mae taleb gwerth £20 i bob teulu sy'n gwneud hynny.

Profi teclyn newydd, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ydi'r gwaith. Y nod ydi gwella sut mae anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu plant bach yn cael eu nodi'n gynnar.

Mae'r sesiwn yn un chwareus, ac mae'n digwydd yn eich cartref chi.

Cofrestru eich diddordeb: www.cardiffmet.ac.uk/prosiect-pengwin

E-bost: prosiectpengwin@cardiffmet.ac.uk

Cyfeirnod Moeseg: Sta-9720.

Poster