Logo Ysgol Llanfair Pwllgwyngyll

Ysgol Llanfair Pwllgwyngyll

Newyddion, cylchlythyrau a llythyrau · News, newsletters and letters

Sesiynau PIPYN i rieni

PrydBob bore Mawrth, 15 Medi – 3 Tachwedd 2026, 10:00–10:30
LleAr-lein

Rhaglen PIPYN sy'n cynnal y sesiynau, nid yr ysgol. Rhaglen i deuluoedd efo plant 3 i 7 oed ydi hi, ac mae'n rhedeg ar Ynys Môn.

Saith sesiwn ar-lein i rieni, bob bore Mawrth rhwng 10:00 a 10:30. Am ddim, a does dim rhaid dod i bob un. Dewiswch y rhai sy'n taro deuddeg i chi.

  • 15/09/2026 — Byrbrydau iach, gwobrau iach a lleihau siwgr
  • 22/09/2026 — Cefnogi plant sy'n bwyta'n ffyslyd
  • 29/09/2026 — Dewch i symud!
  • 06/10/2026 — Tecawê vs Fakeaway
  • 13/10/2026 — Cynllunio prydau bwyd
  • 20/10/2026 — Darllen labeli bwyd
  • 03/11/2026 — Cydbwyso amser sgrin a chwarae

Cofrestrwch ar y ffurflen: cofrestru ar-lein

Poster